Beth sy’n chwiliadau derbyniol?
Mae’r adran hon yn cynnig cyngor ynghylch cael y gorau o’r holl nodweddion Chwiliad Uwch a Chanlyniadau Chwiliad.
Chwiliad Uwch
Meysydd Chwiliad
Os ydych yn dymuno chwilio ar draws yr holl feysydd sydd ar gael, defnyddiwch y maes “Unrhyw Eiriau/ Any Text”.
Gallwch gulhau’r chwiliad i chwilio am eiriau mewn meysydd penodol yn unig. 
Y meysydd hyn yw: 
Teitl
Disgrifiad
Rhif Cyfeirnod
Rhif Cyfeirnod Amgen
Lefel
Dyddiad
I gael diffiniad o’r meysydd uchod, gweler 
Geirfa.
Yn ddiofyn, bydd y chwiliad ond yn dod â chofnodion sy’n cynnwys yr holl eiriau chwilio a roddwyd.
Er enghraifft, pe rhoddir “Conwy” yn y maes “Teitl” a “Plwyf” yn y maes “Disgrifiad” dim ond cofnodion 
sy’n cynnwys y geiriau Conwy a Plwyf (yn y meysydd priodol) y deuir o hyd iddynt. Ni fydd cofnodion yn 
cynnwys dim ond un o’r geiriau hyn yn cael eu dangos yn y canlyniadau chwilio.
Mireinio’r maen prawf chwilio uwch
Ar gyfer chwiliadau mwy penodol gellir dewis newid y maen prawf chwilio diofyn drwy glicio ar yr opsiwn 
“Mireinio’r Maen Prawf Chwilio/ Refine Search Criteria”. Mae hwn yn union o dan y meysydd chwilio “Teitl”, 
“Disgrifiad” ac “Unrhyw Eiriau”. Mae tair ffordd o fireinio eich opsiynau chwilio:
• Gyda’r holl eiriau  
• Gydag o leiaf un o’r geiriau  
• Heb y geiriau
Os rhowch “Conwy” a “Plwyf” yn y maes “Gydag o leiaf un o’r geiriau”, bydd canlyniadau’r chwiliad yn dod â 
chofnodion gydag 
un ai Conwy neu Plwyf ynddynt neu gyfuniad o’r ddau. 
 
Os rhowch “Conwy” a “Plwyf” yn y maes “Heb y geiriau”, bydd canlyniadau’r chwiliad yn dod â chofnodion i 
fyny 
sydd heb y ddau.
Bydd chwiliad “Gyda’r holl eiriau” yn dod â’r un canlyniadau â chwiliad safonol diofyn.
Chwilio ar feysydd rhestr ddewis
Os yw’r maes ble chwiliwch yn faes “rhestr ddewis” (maes lle mae’r cynnwys wedi ei gyfyngu i restr gyfyngedig), 
bydd yn ymddangos mewn rhestr gwymp o ble gallwch ddewis eich term chwilio. 
Er enghraifft, mae’r maes chwilio “Lefel” yn rhoi’r dewis o un ai ddod â chofnodion lefel “Casgliad” cyflawn i fyny, 
"Darnau/ Cyfres” o fewn casgliad neu lefelau “Eitem” unigol o fewn casgliad. Gweler yr 
eirfa am ddiffiniadau.
Os ydych yn dymuno dechrau chwiliad newydd, pwyswch ‘clirio’ a dechreuwch eto.
Canlyniadau Chwiliad
Unwaith byddwch wedi dechrau chwiliad, bydd y canlyniadau’n cyflwyno’u hunain mewn rhestr, gan roi i chi rif cyfeirnod, 
teitl, disgrifiad a syniad o faint neu “Ystent” pob canlyniad.
Gallwch drefnu eich canlyniadau un ai trwy rif cyfeirnod, teitl, disgrifiad neu ystent trwy glicio ar y meysydd unigol 
ar dop y sgrin.
Am fwy o fanylion ar bob canlyniad, cliciwch arnynt. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i chi, gan gynnwys ystod dyddiad 
a’r lefel. Os nad oes unrhyw wybodaeth wedi’i roi yn y maes, ni fydd yn ymddangos.
Os cliciwch ar y rhif cyfeirnod (“Rhif Cyf”) bydd yn dangos y canlyniadau o fewn ei gyd-destun hierarchaidd ehangach, 
gan roi syniad cliriach o ran os ydych yn edrych ar eitem unigol neu gasgliad cyfan. Gellir defnyddio’r “Goeden Hierarchaidd” 
hon hefyd i chwilio trwy gasgliad. Mae top y goeden yn disgrifio’r casgliad cyfan, sydd yn ei dro yn rhannu’n adrannau unigol 
ble mae eitemau unigol.