Sut ydw i’n chwilio drwy’r gronfa ddata?

Mae dwy brif ffordd i chwilio drwy’r gronfa ddata, chwiliad syml a chwiliad uwch.

Chwiliad syml


Mae’n bosibl defnyddio’r chwiliad syml drwy ddefnyddio’r bocs chwilio “tebyg i Google" ar gornel uchaf ochr dde’r dudalen CalmView.

Bydd hyn yn chwilio drwy’r meysydd Teitl, Disgrifiad a Chyfeirif yn ddiofyn. Os ydych yn rhoi mwy nac un term, bydd yn cynnal chwiliad AND yn ddiofyn. Mae hyn yn golygu y bydd y gronfa ddata yn chwilio drwy gofnodion lle mae’r ddau derm chwilio yn bresennol.

Chwiliad uwch


Mae’r chwiliad uwch, sydd wedi’i leoli rhwng Home a Showcase, yn eich galluogi i wneud chwiliad "Any Text Fields", yn ogystal â chwilio yn benodol ar rai meysydd.

Gweler y dudalen "Beth sy’n chwiliadau derbyniol?" i gael rhagor o wybodaeth ac esiamplau o chwiliadau.
Powered by CalmView© 2008-2025