Geirfa

Circa: o'r Lladin yn golygu ‘oddeutu’. Yn cael ei ddefnyddio’n benodol os nad ydym yn gwybod yr union ddyddiad.

Lefel Casgliad: Y casgliad cyfan, wedi’i greu'n organig ac / neu wedi’i grynhoi a’i ddefnyddio gan unigolyn penodol, teulu neu gorff corfforaethol yn ystod gweithgareddau a swyddogaethau’r crëwr. Mae’r lefel fond yn cynnig trosolwg a chrynodeb o gynnwys pob casgliad o archifau e.e. Papurau Ivor Wynne Jones, Gohebydd ac Awdur

Crëwr: Gweler Tarddiad

Dyddiad: Yr union ddyddiadau pan grëwyd y deunydd archif mewn cyfres neu eitem.

Disgrifiad: Mae hwn yn rhoi disgrifiad manwl gywir o gasgliad, cyfres neu eitem.

Maint: Mae’r maes hwn yn rhoi gwybodaeth am faint y deunydd sy’n cael ei ddisgrifio e.e. 4 bocs, 10 eitem, 4 cyfrol

Fonds: Y dogfennau’n gyfan, beth bynnag yw’r ffurf neu’r cyfrwng, wedi’i greu'n organig ac / neu wedi’i grynhoi a’i ddefnyddio gan unigolyn penodol, teulu neu gorff corfforaethol yn ystod gweithgareddau a swyddogaethau’r crëwr.

Math/Fformat: Y math o ddeunydd sy’n ffurfio uned a ddisgrifir e.e. llythyrau, cyfrol, CD, ffotograff.

Lefel Eitem: Yr uned archifol leiaf na ellir ei rhannu yn ddeallusol o fewn cyfres e.e. llythyr, ffeil.

D.S. Dalier sylw.

n.d.: dim dyddiad.

Tarddiad: Y sefydliad neu’r unigolyn a greodd, grynhodd ac/neu gynhaliodd ac a ddefnyddiodd y dogfennau wrth gyflawni gweithgaredd personol neu gorfforaethol.

Lefel: Dyma'r term archifol ar gyfer y man ble gellir dod o hyd i'r cofnod yn strwythur y catalog. Y lefelau a ddefnyddir fwyaf ar hyn o bryd yn y catalogau yw casgliad, cyfres ac eitem.

Rhif Cyf / Rhif Cyfeirnod: Dyma gofnod y ddogfen ac mae’n caniatáu’r archifydd i ddod o hyd i’r ddogfen yn eu daliadau. Os ydych chi’n dymuno gweld neu archebu copi o ddogfen rhaid i chi nodi rhif cyfeirnod lefel yr eitem.

Cofnod: Eitem ar unrhyw ffurf.

Cyfres: Grwp o gofnodion o fewn y casgliad e.e. Rhennir y casgliad ‘Cofnodion Plwyf Capel Garmon' yn wyth grwp, ‘Cofrestrau bedydd, priodas a chladdu a deunyddiau eraill yn ymwneud â phriodasau’, ‘Cofnodion yn ymwneud â’r periglor’, ‘Cofnodion yn ymwneud ag adeiladau a chyllid yr eglwys’, ‘Cofnodion Festri', ‘Cofnodion Goruchwylydd y Tlawd', 'Cofnodion Bryn Morfydd, elusen y Fonesig Gwynne', 'Cofnodion y Degwm' ac ‘Amrywiol Bethau’

Teitl: Gair, brawddeg, nodau, neu grwp o nodau sy’n enwi casgliad, cyfres neu eitem.

Cyfrol: Casgliad o dudalennau wedi’u rhwymo â’i gilydd e.e. llyfr, llyfr nodiadau, llyfr sgrap, ledjer ac ati.

© y Cyngor Rhyngwladol Archifau, ISAD (G): Safon Ryngwladol Gyffredinol ar gyfer Disgrifio Archifol (1994) a The Society of American Archivists, A Glossary of Archival Records and Terminology (2005) yw’r sail ar gyfer yr eirfa hon.

Powered by CalmView© 2008-2024