Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am y Catalog Archifau


Pwy all ddefnyddio Gwasanaeth Archifau Conwy?


Mae’r Archif ar agor i bawb.

Rwyf wedi dod o hyd i gofnod ar y catalog ar-lein ac eisiau gweld yr eitem rwan. Beth yw’r drefn?


Mae ond yn bosibl gweld dogfennau archif yn Archifdy Conwy. I gael rhagor o wybodaeth am oriau agor, trefniadau mynediad a manylion am ein gwasanaethau a’n cyfleusterau, ewch i’n gwefan drwy glicio ar y ddolen gyswllt isod.
Archifau

Er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol mae angen i ymwelwyr gael tocynnau Darllenwyr CARN (Rhwydwaith Ymchwil Archifdai Sirol). Os nad oes gennych un gallwn roi un i chi wrth i chi gyrraedd. Dewch a phrawf adnabod yn dangos eich enw, cyfeiriad a’ch llofnod. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen gyswllt isod:
CARN

Oes angen i mi drefnu apwyntiad i ymweld â’r Archifdy?


Mae croeso i chi bob amser yn ystod ein horiau agor ac ni fyddwn yn eich troi allan, ond os ydych chi eisiau defnyddio PC mynediad cyhoeddus neu ddarllenydd microfiche / microffilm rydym yn eich cynghori i sicrhau eu bod ar gael ymlaen llaw.

Pam fedra i ddim gweld lluniau o’r dogfennau yn y catalog?


Oherwydd cyfyngiadau adnoddau, ychydig o flaenoriaeth a roddwyd i ddigideiddio, felly dim ond rhai cofnodion sydd ar gael i’w gweld fel mân luniau. Rydym yn ceisio ychwanegu rhagor pan fod hynny’n bosibl.

Sut fedra i archebu atgynhyrchiadau o'r deunydd gwreiddiol?


Cysylltwch â ni i weld a yw eich cais yn un ymarferol. Os ydyw, byddwn yn rhoi dyfynbris i chi a Ffurflen Archebu a Datganiad Hawlfraint, a byddwn yn gofyn i chi ei anfon yn ôl atom gyda’ch taliad. Bydd y ffi’n talu am y math o fformat rydych eisiau ar gyfer y copi, y nifer o gopïau rydych eisiau, amser staff a chost postio. Byddwn ond yn bwrw ymlaen â’ch cais unwaith rydych wedi llenwi’r ffurflen a bod taliad wedi cyrraedd. Cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i weld ein cyfraddau presennol:
Cyfraddau

Nodwch fod cyfyngiadau hawlfraint mewn grym dan rai amgylchiadau ac mae rhai dogfennau penodol yn rhy fregus i’w copïo. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Pam na fedra i ddod o hyd i’r hyn rwy’n chwilio amdano?


Dim ond yr union eiriau a ddefnyddir yn y catalog fydd yn cael eu darganfod wrth chwilio drwy’r catalog ac ni fydd yn dod o hyd i dermau cysylltiedig. Os nad oedd eich chwiliad cyntaf yn llwyddiannus bydd rhaid i chi roi cynnig ar wahanol sillafiadau eich hun. Er enghraifft mae nifer o enwau Cymraeg wedi’u sillafu’n wahanol dros y blynyddoedd, fel Conway neu Conwy.

Os ydych wedi rhoi cynnig ar yr holl opsiynau hyn cysylltwch â’r Archifdy’n uniongyrchol gan ei bod yn bosibl fod casgliadau eraill nad ydynt ar gael ar lein eto.

Yn ogystal, gan fod Conwy wedi’i ffurfio o siroedd hanesyddol Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych, mae’n bosibl fod gan Wasanaeth Archifau Gwynedd a Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych yr hyn rydych yn chwilio amdano. Yn ogystal mae Archifdy Prifysgol Bangor yn dal nifer o gasgliadau archifau pwysig. Yn olaf, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Archifau Cenedlaethol yn dal cofnodion sy'n cael eu hystyried yn rhai o bwysigrwydd cenedlaethol, a gallai rhai ohonynt fod yn berthnasol i ardal Bwrdeistref Sirol Conwy (Gweler ein tudalen Dolenni Cyswllt Defnyddiol).

Powered by CalmView© 2008-2024