Beth sy’n chwiliadau derbyniol?

Mae’r adran hon yn cynnig cyngor ynghylch cael y gorau o’r holl nodweddion Chwiliad Uwch a Chanlyniadau Chwiliad.

Chwiliad Uwch


Meysydd Chwiliad


Os ydych yn dymuno chwilio ar draws yr holl feysydd sydd ar gael, defnyddiwch y maes “Unrhyw Eiriau/ Any Text”.

Gallwch gulhau’r chwiliad i chwilio am eiriau mewn meysydd penodol yn unig.
Y meysydd hyn yw:

Teitl

Disgrifiad

Rhif Cyfeirnod

Rhif Cyfeirnod Amgen

Lefel

Dyddiad

I gael diffiniad o’r meysydd uchod, gweler Geirfa.

Yn ddiofyn, bydd y chwiliad ond yn dod â chofnodion sy’n cynnwys yr holl eiriau chwilio a roddwyd.

Er enghraifft, pe rhoddir “Conwy” yn y maes “Teitl” a “Plwyf” yn y maes “Disgrifiad” dim ond cofnodion sy’n cynnwys y geiriau Conwy a Plwyf (yn y meysydd priodol) y deuir o hyd iddynt. Ni fydd cofnodion yn cynnwys dim ond un o’r geiriau hyn yn cael eu dangos yn y canlyniadau chwilio.

Mireinio’r maen prawf chwilio uwch


Ar gyfer chwiliadau mwy penodol gellir dewis newid y maen prawf chwilio diofyn drwy glicio ar yr opsiwn “Mireinio’r Maen Prawf Chwilio/ Refine Search Criteria”. Mae hwn yn union o dan y meysydd chwilio “Teitl”, “Disgrifiad” ac “Unrhyw Eiriau”. Mae tair ffordd o fireinio eich opsiynau chwilio:

• Gyda’r holl eiriau
• Gydag o leiaf un o’r geiriau
• Heb y geiriau

Os rhowch “Conwy” a “Plwyf” yn y maes “Gydag o leiaf un o’r geiriau”, bydd canlyniadau’r chwiliad yn dod â chofnodion gydag un ai Conwy neu Plwyf ynddynt neu gyfuniad o’r ddau.

Os rhowch “Conwy” a “Plwyf” yn y maes “Heb y geiriau”, bydd canlyniadau’r chwiliad yn dod â chofnodion i fyny sydd heb y ddau.

Bydd chwiliad “Gyda’r holl eiriau” yn dod â’r un canlyniadau â chwiliad safonol diofyn.

Chwilio ar feysydd rhestr ddewis


Os yw’r maes ble chwiliwch yn faes “rhestr ddewis” (maes lle mae’r cynnwys wedi ei gyfyngu i restr gyfyngedig), bydd yn ymddangos mewn rhestr gwymp o ble gallwch ddewis eich term chwilio.

Er enghraifft, mae’r maes chwilio “Lefel” yn rhoi’r dewis o un ai ddod â chofnodion lefel “Casgliad” cyflawn i fyny, "Darnau/ Cyfres” o fewn casgliad neu lefelau “Eitem” unigol o fewn casgliad. Gweler yr eirfa am ddiffiniadau.

Os ydych yn dymuno dechrau chwiliad newydd, pwyswch ‘clirio’ a dechreuwch eto.


Canlyniadau Chwiliad

Unwaith byddwch wedi dechrau chwiliad, bydd y canlyniadau’n cyflwyno’u hunain mewn rhestr, gan roi i chi rif cyfeirnod, teitl, disgrifiad a syniad o faint neu “Ystent” pob canlyniad.

Gallwch drefnu eich canlyniadau un ai trwy rif cyfeirnod, teitl, disgrifiad neu ystent trwy glicio ar y meysydd unigol ar dop y sgrin.

Am fwy o fanylion ar bob canlyniad, cliciwch arnynt. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i chi, gan gynnwys ystod dyddiad a’r lefel. Os nad oes unrhyw wybodaeth wedi’i roi yn y maes, ni fydd yn ymddangos.

Os cliciwch ar y rhif cyfeirnod (“Rhif Cyf”) bydd yn dangos y canlyniadau o fewn ei gyd-destun hierarchaidd ehangach, gan roi syniad cliriach o ran os ydych yn edrych ar eitem unigol neu gasgliad cyfan. Gellir defnyddio’r “Goeden Hierarchaidd” hon hefyd i chwilio trwy gasgliad. Mae top y goeden yn disgrifio’r casgliad cyfan, sydd yn ei dro yn rhannu’n adrannau unigol ble mae eitemau unigol.
Powered by CalmView© 2008-2024